RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 1FFURFLENNI TRETH
Trafodiadau hysbysadwy
45Trafodiadau hysbysadwy
(1)
At ddibenion y Ddeddf hon, mae trafodiad tir yn hysbysadwy os yw—
(a)
yn gaffaeliad prif fuddiant mewn tir (gweler adran 68) nad yw o fewn un o’r eithriadau a restrir yn adran 46,
(b)
yn gaffaeliad buddiant trethadwy, ac eithrio prif fuddiant mewn tir—
(i)
os nad yw’n esempt rhag codi treth arno fel y darperir yn Atodlen 3, a
(ii)
os yw treth i’w chodi ar gyfradd o fwy na 0%, neu y byddai treth i’w chodi felly oni bai am ryddhad a restrir yn adran 30, mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad,
(c)
yn drafodiad tir y trinnir person fel pe bai’n ymrwymo iddo yn rhinwedd adran 11(3) (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti), neu
(d)
yn drafodiad tir tybiannol neu’n drafodiad tir tybiannol ychwanegol o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 2.
(2)
Mae’r adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)
adran 10(5) (contract a throsglwyddo),
(b)
paragraff 18(5) o Atodlen 4 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol),
(c)
paragraff 44(1) o Atodlen 7 (trosglwyddo buddiant partneriaeth), a
(d)
paragraff 2(6) o Atodlen 10 (cyllid eiddo arall).