RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 1FFURFLENNI TRETH
Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth
44Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth
(1)
Rhaid i’r prynwr mewn trafodiad tir hysbysadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC.
(2)
Rhaid i ffurflen dreth a ddychwelir o dan yr adran hon—
(a)
cael ei dychwelyd cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a
(b)
cynnwys hunanasesiad, os yw’r trafodiad yn drafodiad trethadwy.
(3)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “hunanasesiad” mewn perthynas â ffurflen dreth, yw asesiad o swm y dreth sydd i’w godi mewn perthynas â’r trafodiad, ar sail yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ffurflen dreth honno.