RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL
43Personau sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr
(1)
Mewn perthynas â chynrychiolwyr personol person sy’n brynwr mewn trafodiad tir—
(a)
maent yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad, a
(b)
cânt ddidynnu unrhyw daliad a wneir ganddynt o dan y Ddeddf hon neu DCRhT o asedau ac eiddo’r ymadawedig.
(2)
Mae derbynnydd a benodir gan lys yn y Deyrnas Unedig sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli unrhyw eiddo yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â thrafodiad sy’n effeithio ar yr eiddo hwnnw fel pe na bai’r eiddo o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y llys.