RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL

39Cydbrynwyr: ymholiadau ac asesiadau

(1)

Os yw ACC yn dyroddi hysbysiad ymholiad ynghylch ffurflen dreth o dan adran 43 o DCRhT—

(a)

rhaid dyroddi’r hysbysiad i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)

mae pwerau ACC o dan Ran 4 o DCRhT i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol at ddibenion yr ymholiad yn arferadwy ar wahân (ac yn wahanol) mewn perthynas â phob un o’r prynwyr;

(c)

rhaid dyroddi unrhyw hysbysiad cau o dan adran 50 o DCRhT i bob un o’r prynwyr y gŵyr ACC pwy ydynt;

(d)

caiff unrhyw un neu ragor o’r prynwyr wneud cais o dan adran 51 o DCRhT am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi (ac mae gan bob un ohonynt yr hawl i fod yn bartïon i’r cais).

(2)

Rhaid i ddyfarniad ACC o dan adran 52 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud yn erbyn yr holl brynwyr ac nid yw’n cael effaith yn erbyn unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan yr adran honno i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

(3)

Rhaid i asesiad ACC o dan adran 54 neu 55 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud mwen cysylltiad â’r holl brynwyr ac nid yw’n cael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan adran 61 o DCRhT i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.