RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL

36Cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth

(1)

Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (9)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel pe bai—

(a)

y cynllun yn gwmni, a

(b)

hawliau’r cyfranogwyr yn gyfranddaliadau yn y cwmni.

(2)

Ystyr “CCAC ambarél” yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth—

(a)

y mae ei drefniadau yn darparu ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y gwneir taliadau iddynt ohonynt (“trefniadau ar gyfer cronni”), a

(b)

y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.

(3)

Ystyr “is-gynllun”, mewn perthynas â CCAC ambarél, yw hynny o’r trefniadau ar gyfer cronni sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.

(4)

Ystyrir pob un o is-gynlluniau CCAC ambarél yn gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth ar wahân, ac nid yw’r CCAC ambarél yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.

(5)

Mewn perthynas ag is-gynllun CCAC ambarél—

(a)

mae cyfeiriadau at fuddiannau trethadwy yn gyfeiriadau at hynny o’r buddiannau trethadwy sydd, o dan y trefniadau cronni, yn ffurfio rhan o’r gronfa ar wahân y mae’r is-gynllun yn ymwneud â hi, a

(b)

mae cyfeiriadau at ddogfennau’r cynllun yn gyfeiriadau at y rhannau hynny o’r dogfennau sy’n gymwys i’r is-gynllun.

F1(6)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7)

Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (8)—

ystyr “cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth” (“co-ownership authorised contractual scheme”) yw cynllun cyfberchnogaeth a awdurdodir at ddibenion Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) drwy orchymyn awdurdodi sydd mewn grym o dan adran 261D(1) o’r Ddeddf honno;

mae i “cynllun cyfberchnogaeth” yr un ystyr ag a roddir i “co-ownership scheme” yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) (gweler adran 235A o’r Ddeddf honno).

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.

(9)

Nid yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).

(10)

Mae unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr mewn trafodiad tir, neu mewn perthynas ag ef, i’w wneud gan weithredwr cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth, neu mewn perthynas ag ef; ac yn unol â hynny nid yw adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â chynllun y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(11)

Ond pan fo gweithredwr y cynllun yn gorff corfforaethol, mae adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr, ac mae’r cyfeiriadau at gwmni yn yr is-adrannau hynny yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y gweithredwr.

(12)

Yn yr adran hon—

mae “cyfranogwr” i’w ddarllen yn unol â “participant” yn adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);

F2...

mewn perthynas â “gweithredwr” (“operator”)—

mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a gyfansoddir o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae i “gweithredwr” yr ystyr a roddir i “operator” gan adran 237(2) o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8)

F3...