(1)Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (9)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel pe bai—
(a)y cynllun yn gwmni, a
(b)hawliau’r cyfranogwyr yn gyfranddaliadau yn y cwmni.
(2)Ystyr “CCAC ambarél” yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth—
(a)y mae ei drefniadau yn darparu ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y gwneir taliadau iddynt ohonynt (“trefniadau ar gyfer cronni”), a
(b)y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.
(3)Ystyr “is-gynllun”, mewn perthynas â CCAC ambarél, yw hynny o’r trefniadau ar gyfer cronni sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.
(4)Ystyrir pob un o is-gynlluniau CCAC ambarél yn gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth ar wahân, ac nid yw’r CCAC ambarél yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.
(5)Mewn perthynas ag is-gynllun CCAC ambarél—
(a)mae cyfeiriadau at fuddiannau trethadwy yn gyfeiriadau at hynny o’r buddiannau trethadwy sydd, o dan y trefniadau cronni, yn ffurfio rhan o’r gronfa ar wahân y mae’r is-gynllun yn ymwneud â hi, a
(b)mae cyfeiriadau at ddogfennau’r cynllun yn gyfeiriadau at y rhannau hynny o’r dogfennau sy’n gymwys i’r is-gynllun.
F1(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (8)—
ystyr “cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth” (“co-ownership authorised contractual scheme”) yw cynllun cyfberchnogaeth a awdurdodir at ddibenion Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) drwy orchymyn awdurdodi sydd mewn grym o dan adran 261D(1) o’r Ddeddf honno;
mae i “cynllun cyfberchnogaeth” yr un ystyr ag a roddir i “co-ownership scheme” yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) (gweler adran 235A o’r Ddeddf honno).
(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.
(9)Nid yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).
(10)Mae unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr mewn trafodiad tir, neu mewn perthynas ag ef, i’w wneud gan weithredwr cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth, neu mewn perthynas ag ef; ac yn unol â hynny nid yw adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â chynllun y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
(11)Ond pan fo gweithredwr y cynllun yn gorff corfforaethol, mae adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr, ac mae’r cyfeiriadau at gwmni yn yr is-adrannau hynny yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y gweithredwr.
(12)Yn yr adran hon—
mae “cyfranogwr” i’w ddarllen yn unol â “participant” yn adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);
F2...
mewn perthynas â “gweithredwr” (“operator”)—
mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a gyfansoddir o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae i “gweithredwr” yr ystyr a roddir i “operator” gan adran 237(2) o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) F3...
F4...
Diwygiadau Testunol
F1A. 36(6) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/833), rhlau. 1(2), 6(2)(a) (ynghyd â rhl. 6(3)); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F2Geiriau yn a. 36(12) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/1281), rhlau. 1(2), 10; 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F3Gair yn a. 36(12) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/833), rhlau. 1(2), 6(2)(b)(i) (ynghyd â rhl. 6(3)); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F4Geiriau yn a. 36(12) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/833), rhlau. 1(2), 6(2)(b)(ii) (ynghyd â rhl. 6(3)); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 36 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3