RHAN 5CYMHWYSO’R DDEDDF A DCRHT I BERSONAU A CHYRFF PENODOL

I1I236Cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth

1

Mae’r Ddeddf hon (ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (9)), a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir, yn gymwys mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel pe bai—

a

y cynllun yn gwmni, a

b

hawliau’r cyfranogwyr yn gyfranddaliadau yn y cwmni.

2

Ystyr “CCAC ambarél” yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth—

a

y mae ei drefniadau yn darparu ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a’r elw neu’r incwm y gwneir taliadau iddynt ohonynt (“trefniadau ar gyfer cronni”), a

b

y mae gan y cyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un gronfa am hawliau mewn cronfa arall oddi tano.

3

Ystyr “is-gynllun”, mewn perthynas â CCAC ambarél, yw hynny o’r trefniadau ar gyfer cronni sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.

4

Ystyrir pob un o is-gynlluniau CCAC ambarél yn gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth ar wahân, ac nid yw’r CCAC ambarél yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried felly.

5

Mewn perthynas ag is-gynllun CCAC ambarél—

a

mae cyfeiriadau at fuddiannau trethadwy yn gyfeiriadau at hynny o’r buddiannau trethadwy sydd, o dan y trefniadau cronni, yn ffurfio rhan o’r gronfa ar wahân y mae’r is-gynllun yn ymwneud â hi, a

b

mae cyfeiriadau at ddogfennau’r cynllun yn gyfeiriadau at y rhannau hynny o’r dogfennau sy’n gymwys i’r is-gynllun.

6

Mae cyfeiriadau at gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn cael eu trin fel pe baent yn cynnwys cynllun buddsoddi torfol—

a

a gyfansoddir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig drwy gontract,

b

a reolir gan gorff corfforaethol a gorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac

c

a awdurdodir o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir ym mharagraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth fel y’i diffinnir yn is-adran (7),

ar yr amod, ar wahân i’r adran hon, na ellir codi unrhyw dreth ar y cynllun o dan y Ddeddf hon.

7

Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan is-adran (8)—

8

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod cynllun o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau i’w drin fel cynllun nad yw’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion y Ddeddf hon, a DCRhT fel y mae’n gymwys i dreth trafodiadau tir.

9

Nid yw cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth i’w drin fel cwmni at ddibenion Atodlenni 16 (rhyddhad grŵp) ac 17 (rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael).

10

Mae unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr mewn trafodiad tir, neu mewn perthynas ag ef, i’w wneud gan weithredwr cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth, neu mewn perthynas ag ef; ac yn unol â hynny nid yw adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â chynllun y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

11

Ond pan fo gweithredwr y cynllun yn gorff corfforaethol, mae adran 33(2) i (6) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr, ac mae’r cyfeiriadau at gwmni yn yr is-adrannau hynny yn cael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at y gweithredwr.

12

Yn yr adran hon—

  • mae “cyfranogwr” i’w ddarllen yn unol â “participant” yn adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);

  • mae i “cynllun buddsoddi torfol” yr ystyr a roddir i “collective investment scheme” gan adran 235 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8);

  • mewn perthynas â “gweithredwr” (“operator”)—

    1. a

      mewn perthynas â chynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a gyfansoddir o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, mae i “gweithredwr” yr ystyr a roddir i “operator” gan adran 237(2) o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8), a

    2. b

      mewn perthynas â chynllun buddsoddi torfol a drinnir fel cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn rhinwedd is-adran (6) (cynlluniau cyfatebol yr AEE), ystyr “gweithredwr” yw’r corff corfforaethol sy’n gyfrifol am reoli’r cynllun (ym mha fodd bynnag y’i disgrifir).