RHAN 4LESOEDD

32Lesoedd

(1)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “les” yw—

(a)

buddiant neu hawl mewn tir neu dros dir am gyfnod o flynyddoedd (boed benodol neu gyfnodol), neu

(b)

unrhyw fuddiant neu hawl arall mewn tir neu dros dir y gellir ei derfynu drwy roi cyfnod o rybudd neu hysbysiad ar unrhyw adeg (ac eithrio tenantiaeth wrth ewyllys, sy’n fuddiant esempt yn rhinwedd adran 5(1)(c)).

(2)

Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch lesoedd.