RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU
Rhyddhadau
31Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethi
1
Nid yw rhyddhad ar gael o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 30 mewn cysylltiad â thrafodiad tir—
a
sy’n drefniant osgoi trethi, neu
b
sy’n rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.
2
Mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi”—
a
os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ymrwymo i’r trefniant, a
b
os nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant ac eithrio cael mantais drethiannol.
3
Yn yr adran hon—
ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—
- a
rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,
- b
ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,
- c
osgoi neu leihau swm y codir treth arno, neu
- d
gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth;
- a
mae “trefniant” (“arrangement”) yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);
ystyr “treth” (“tax”) yw treth trafodiadau tir, treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp.