xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CCYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

RhyddhadauLL+C

31Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethiLL+C

(1)Nid yw rhyddhad ar gael o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 30 mewn cysylltiad â thrafodiad tir—

(a)sy’n drefniant osgoi trethi, neu

(b)sy’n rhan o drefniadau sy’n drefniadau osgoi trethi.

(2)Mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi”—

(a)os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae’r prynwr yn y trafodiad tir yn ymrwymo i’r trefniant, a

(b)os nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant ac eithrio cael mantais drethiannol.

(3)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2A. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3