(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “trafodiad tir” yw caffael buddiant trethadwy.
(2)Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae’r Ddeddf hon yn gymwys ni waeth ym mha ffordd y rhoddir effaith i’r caffaeliad, boed drwy weithred gan y partïon, drwy orchymyn llys neu awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu yn sgil gweithredu’r gyfraith.
(3)Gweler adran 15 ynghylch pa bryd y mae caffael opsiwn neu hawl rhagbrynu yn drafodiad tir.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3