RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU
Cyfrifo treth
29Darpariaethau cyfrifo yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol ynglŷn â rhyddhadau
Mae adrannau 27 a 28 yn ddarostyngedig i—
(a)
Atodlen 13 (rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog);
(b)
paragraff 10 o Atodlen 14 (rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd);
(c)
Rhan 3 o Atodlen 17 (rhyddhad caffael);
(d)
paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 18 (rhyddhad elusennau rhannol mewn amgylchiadau penodol).