RHAN 3CYFRIFO TRETH A RHYDDHADAU

Cyfrifo treth

26Bandiau treth a chyfraddau treth sy’n gymwys pan fo rheoliadau yn peidio â chael effaith

1

Yn yr adran hon—

a

ystyr “rheoliadau a wrthodir” yw rheoliadau sy’n peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25;

b

ystyr “y cyfnod interim” yw’r cyfnod—

i

sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir gan reoliadau a wrthodir fel y dyddiad y mae bandiau treth a chyfraddau treth penodedig yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad trethadwy, a

ii

sy’n dod i ben pan fydd y rheoliadau hynny yn peidio â chael effaith yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o adran 25.

2

Yn ddarostyngedig i is-adran (3), os yw’r dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a bennir gan y rheoliadau a wrthodir fel y rhai sy’n gymwys i’r trafodiad.

3

Os yw—

a

y dyddiad y mae trafodiad trethadwy yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, a

b

is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys,

y bandiau treth a’r cyfraddau treth sy’n gymwys i’r trafodiad yw’r bandiau a’r cyfraddau a fyddai wedi bod yn gymwys pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

4

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

pan fo’n ofynnol i’r prynwr, yn rhinwedd adran 44, ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, a’i fod yn methu â gwneud hynny, a

b

pan fo’r prynwr hefyd yn methu â dychwelyd y ffurflen dreth ar y dyddiad y mae’r cyfnod interim yn dod i ben neu cyn hynny.

5

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ffurflen dreth gyntaf sy’n ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad trethadwy yn ofynnol o dan un o’r darpariaethau a ganlyn—

a

adran 47 (dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fo digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod);

b

adran 51 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach);

c

paragraff 3(4) neu 5(5) o Atodlen 6 (dychwelyd ffurflen dreth o ganlyniad i barhad les);

d

paragraff 13(1) o’r Atodlen honno (dychwelyd ffurflen dreth yn achos tandaliad treth pan bennir rhent wrth ailystyried).

6

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo—

a

y prynwr yn y trafodiad yn gwneud hawliad o dan adran 63A o DCRhT,

b

yn rhinwedd is-adran (5) o’r adran honno, yr asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gynhwysir mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ddiwygio, ac

c

ffurflen dreth bellach yn ofynnol mewn perthynas â’r trafodiad o dan—

i

darpariaeth a grybwyllir yn is-adran (5) o’r adran hon,

ii

adran 49 (dychwelyd ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl), neu

iii

paragraff 24 o Atodlen 5 (dychwelyd ffurflen dreth pan fo trafodiad yn cael ei drin fel trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch).

7

Ond nid yw is-adran (6) yn effeithio ar ffurflen dreth a ddychwelir cyn i’r hawliad gael ei wneud o dan adran 63A o DCRhT.

8

Mae adran 63A o DCRhT yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawlio rhyddhad mewn achosion pan fo is-adran (2) yn gymwys os yw swm y dreth sydd i’w godi yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.