xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 18/10/2017

RHAN 2LL+CY DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

Valid from 01/04/2018

PENNOD 1LL+CTRETH TRAFODIADAU TIR

2Treth trafodiadau tirLL+C

(1)Mae treth (o’r enw “treth trafodiadau tir”) i’w chodi ar drafodiadau tir.

(2)Caiff y dreth ei chodi—

(a)pa un a oes offeryn yn rhoi effaith i’r trafodiad ai peidio,

(b)os oes offeryn o’r fath, ni waeth ym mha le y caiff ei gyflawni, ac

(c)ni waeth ym mha le y mae unrhyw barti i’r trafodiad nac ym mha le y mae’n preswylio.

(3)Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sydd i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)