RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU
PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL
Cyfnewidiadau
16Cyfnewidiadau
(1)
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achos sydd o fewn is-adran (2) mewn perthynas â phob trafodiad a ddisgrifir yn yr is-adran honno fel pe bai pob un yn wahanol i’w gilydd ac ar wahân i’w gilydd (ac nid ydynt yn drafodiadau cysylltiol o fewn ystyr adran 8).
(2)
Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fo person (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr.
(3)
Caiff trafodiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un y mae person wedi ymrwymo iddo fel prynwr, yn gydnabyddiaeth, boed lwyr neu rannol, y bydd y person hwnnw yn ymrwymo i drafodiad tir arall fel gwerthwr mewn achos sydd o fewn is-adran (4).
(4)
Mae achos o fewn yr is-adran hon pan fodlonir rhwymedigaeth i roi cydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir y mae person yn ymrwymo iddo fel prynwr yn llwyr neu’n rhannol wrth i’r person hwnnw ymrwymo i drafodiad arall fel gwerthwr.
(5)
O ran y swm o’r gydnabyddiaeth drethadwy yn achos cyfnewidiadau a thrafodiadau tebyg, gweler—
(a)
paragraffau 5 a 6 o Atodlen 4 (cyfnewidiadau, darnddosbarthu etc.);
(b)
paragraff 18 o’r Atodlen honno (trefniadau sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gyrff addysgol).