xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Y DRETH A’R PRIF GYSYNIADAU

PENNOD 3TRAFODIADAU PENODOL

Cyflawni’n sylweddol

14Ystyr cyflawni’n sylweddol

(1)Mae contract wedi ei gyflawni’n sylweddol at ddibenion y Ddeddf hon pan fo—

(a)y prynwr, neu berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yn cymryd meddiant o holl destun y contract, neu’r holl destun i raddau helaeth, neu

(b)cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth yn cael ei thalu neu ei darparu.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a)—

(a)mae meddiant yn cynnwys cael rhenti ac elw neu’r hawl i’w cael, a

(b)nid oes wahaniaeth pa un a gymerir meddiant o dan y contract neu o dan drwydded neu les dros dro neu denantiaeth wrth ewyllys.

(3)At ddibenion is-adran (1)(b), caiff cyfran helaeth o’r gydnabyddiaeth ei thalu neu ei darparu—

(a)os nad yw dim o’r gydnabyddiaeth yn rhent, pan delir neu pan ddarperir yr holl gydnabyddiaeth, neu’r holl gydnabyddiaeth i raddau helaeth;

(b)os rhent yw’r unig gydnabyddiaeth, pan wneir y taliad rhent cyntaf;

(c)os yw’r gydnabyddiaeth yn cynnwys rhent yn ogystal â chydnabyddiaeth arall, pan ddigwydd y cyntaf o’r canlynol—

(i)caiff yr holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent, neu’r holl gydnabyddiaeth ar wahân i rent i raddau helaeth, ei thalu neu ei darparu, neu

(ii)gwneir y taliad rhent cyntaf.