(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymrwymir i gontract y mae buddiant trethadwy i’w drosglwyddo oddi tano gan un parti i’r contract (“P1”) ar gyfarwyddyd neu ar gais y llall (“P2”)—
(a)i berson (“P3”) nad yw’n barti i’r contract, neu
(b)naill ai i berson o’r fath neu i P2.
(2)Nid ystyrir bod P2 yn ymrwymo i drafodiad tir oherwydd ei fod yn ymrwymo i’r contract.
(3)Ond os caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol heb ei gwblhau—
(a)caiff P2 ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n caffael buddiant trethadwy, ac felly fel pe bai’n ymrwymo i drafodiad tir, a
(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw pan gaiff y contract ei gyflawni’n sylweddol.
(4)Pan fo is-adran (3) yn gymwys a bod y contract wedi hynny yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu (i unrhyw raddau), neu oni roddir effaith iddo am unrhyw reswm arall, rhaid i ACC ad-dalu’r dreth a dalwyd yn unol â’r is-adran honno (i’r graddau hynny).
(5)Ond nid oes ad-daliad treth yn ddyledus oni wneir cais amdano drwy ddiwygio’r ffurflen dreth a ddychwelwyd mewn perthynas â’r contract, yn unol ag adran 41 o DCRhT.
(6)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), nid yw adran 10 (contract a throsglwyddo) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.
(7)Pan fo—
(a)yr adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b), a
(b)P1 yn dod yn rhwym i drosglwyddo buddiant trethadwy i P2 oherwydd cyfarwyddyd neu gais gan P2,
mae adran 10 yn gymwys i’r rhwymedigaeth honno fel y mae’n gymwys i gontract ar gyfer trafodiad tir sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
(8)Mae adran 10 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gontract rhwng P2 a P3, mewn cysylltiad â’r buddiant trethadwy y cyfeirir ato yn is-adran (1), sydd i’w gwblhau drwy drosglwyddiad.
(9)Mae cyfeiriadau at gwblhau yn yr adran honno, fel y mae’n gymwys, yn cynnwys cyfeiriadau at drosglwyddo, gan P1 i P3, destun y contract rhwng P2 a P3.
(10)Yn yr adran hon, mae “contract” yn cynnwys unrhyw gytundeb ac mae “trosglwyddiad” yn cynnwys unrhyw offeryn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2A. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3