xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 42(1))

ATODLEN 8LL+CYMDDIRIEDOLAETHAU

TrosolwgLL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas ag ymddiriedolaethau.

(2)Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae paragraff 2 yn diffinio termau allweddol;

(b)mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau y mae ymddiriedolaethau noeth yn ymwneud â hwy;

(c)mae paragraffau 4 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â setliadau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr setliad;

(d)mae paragraff 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Termau allweddolLL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “ymddiriedolaeth noeth” yw ymddiriedolaeth y mae person yn dal eiddo fel ymddiriedolwr oddi tani—

(a)ar ran person sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr, neu a fyddai â’r hawl honno oni bai am y ffaith ei fod o dan 18 oed neu heb fod â galluedd (o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)) i weinyddu a rheoli eiddo a materion y person, neu

(b)ar ran dau berson neu ragor sydd neu a fyddai â’r hawl honno ar y cyd,

ac mae’n cynnwys achos pan fo person yn dal eiddo fel enwebai ar ran rhywun arall.

(2)Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at berson sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr yn gyfeiriad at achos pan fo gan y person yr hawl unigryw, yn ddarostyngedig yn unig i fodloni unrhyw arwystl, hawlrwym neu hawl arall sy’n ddyledus gan yr ymddiriedolwr—

(a)i ddefnyddio’r eiddo i dalu tollau, trethi, costau neu alldaliadau eraill, neu

(b)i gyfarwyddo sut i ymdrin â’r eiddo.

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “setliad” yw ymddiriedolaeth nad yw’n ymddiriedolaeth noeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 8 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolaethau noethLL+C

3(1)Pan fo person (“Y”) yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwr noeth, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r buddiant wedi ei freinio yn y person neu’r personau y mae Y yn ymddiriedolwr iddo neu iddynt, a gweithredoedd Y mewn perthynas â’r buddiant yn weithredoedd ganddo neu ganddynt.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhoi les.

(3)Pan roddir les i berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel prynwr y buddiant cyfan a gaffaelir.

(4)Pan roddir les gan berson fel ymddiriedolwr noeth, mae’r person hwnnw i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â rhoi’r les, fel gwerthwr y buddiant cyfan a waredir.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolwyr yn caffael setliadLL+C

4Pan fo personau yn caffael buddiant trethadwy neu fuddiant mewn partneriaeth fel ymddiriedolwyr setliad, maent i’w trin at ddibenion y Ddeddf hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r caffaeliad hwnnw, fel prynwyr yr holl fuddiant a gaffaelir (gan gynnwys y buddiant llesiannol).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cydnabyddiaeth am arfer pŵer penodi neu ddisgresiwnLL+C

5(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan gaffaelir buddiant trethadwy yn rhinwedd—

(a)arfer pŵer penodi, neu

(b)arfer disgresiwn a freinir yn ymddiriedolwyr setliad.

(2)Mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am fod y person y gwnaethpwyd y penodiad neu yr arferwyd y disgresiwn o’i blaid yn dod yn destun y pŵer neu’r disgresiwn i’w drin fel cydnabyddiaeth ar gyfer caffael y buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth rhwng buddiolwyrLL+C

6Pan fo—

(a)ymddiriedolwyr setliad yn ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth fel bod buddiolwr yn caffael buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth penodol ac yn peidio â bod â buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth arall, a

(b)y buddiolwr yn cydsynio i beidio â bod â buddiant yn yr eiddo arall hwnnw,

nid yw’r ffaith fod y buddiolwr yn cydsynio yn golygu bod cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr setliadLL+C

7(1)Pan fo rhwymedigaeth ar ymddiriedolwyr setliad i dalu—

(a)treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

(b)swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

(c)cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

caniateir adennill y taliad, y gosb neu’r llog (ond unwaith yn unig) gan unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr cyfrifol.

(2)Ni chaniateir adennill unrhyw swm yn rhinwedd is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn ymddiriedolwr cyfrifol hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

(3)Yr ymddiriedolwyr cyfrifol, mewn perthynas â thrafodiad tir, yw’r personau sy’n ymddiriedolwyr ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ac unrhyw berson sy’n dod yn ymddiriedolwr wedi hynny.

(4)Yr adeg berthnasol—

(a)mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu â llog taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 8 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolwyr perthnasol at ddibenion ffurflen dreth etc.LL+C

8(1)Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr sy’n ymddiriedolwyr cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad tir ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r trafodiad.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr ymddiriedolwyr sy’n dychwelyd ffurflen dreth o’r fath fel “yr ymddiriedolwyr perthnasol”.

(3)Rhaid i’r holl ymddiriedolwyr perthnasol wneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 8 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolwyr perthnasol: ymholiadau ac asesiadauLL+C

9(1)Os yw ACC yn dyroddi hysbysiad ymholiad ynghylch y ffurflen dreth o dan adran 43 o DCRhT—

(a)rhaid dyroddi’r hysbysiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)mae pwerau ACC o dan Ran 4 o DCRhT i wneud dogfennau a gwybodaeth yn ofynnol at ddibenion yr ymholiad yn arferadwy ar wahân (ac yn wahanol) mewn perthynas â phob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol;

(c)caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol wneud cais o dan adran 51 o DCRhT am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau i’w ddyroddi (ac mae gan bob un ohonynt yr hawl i fod yn bartïon i’r cais);

(d)rhaid dyroddi unrhyw hysbysiad cau o dan adran 50 o DCRhT i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt.

(2)Rhaid i ddyfarniad ACC o dan adran 52 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud yn erbyn yr holl ymddiriedolwyr perthnasol ac nid yw’n cael effaith yn erbyn unrhyw un ohonynt oni bai bod hysbysiad amdano yn cael ei ddyroddi i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

(3)Rhaid i asesiad ACC o dan adran 54 neu 55 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad gael ei wneud mewn cysylltiad â’r holl ymddiriedolwyr perthnasol ac nid yw’n cael effaith mewn cysylltiad ag unrhyw un ohonynt oni bai y dyroddir hysbysiad amdano o dan adran 61 o DCRhT i bob un ohonynt y gŵyr ACC pwy ydynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 8 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ymddiriedolwyr perthnasol: apelau ac adolygiadauLL+C

10(1)Mae’n ofynnol cael cytundeb yr holl ymddiriedolwyr perthnasol os ymrwymir i gytundeb setlo sy’n ymwneud â’r trafodiad o dan adran 184 o DCRhT.

(2)Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol roi hysbysiad am gais o dan adran 173 o DCRhT.

(3)Pan fo ACC yn cynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy mewn perthynas â’r trafodiad yn dilyn cais o’r fath gan rai (ond nid pob un) o’r ymddiriedolwyr perthnasol⁠—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr adolygiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol eraill y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol eraill fod yn barti neu’n bartïon i’r adolygiad os ydynt yn hysbysu ACC am hynny yn ysgrifenedig;

(c)rhaid i hysbysiad am gasgliadau ACC o dan adran 176(5), (6) neu (7) o DCRhT gael ei ddyroddi i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt;

(d)mae adran 177 o DCRhT (effaith casgliadau adolygiad) yn gymwys mewn perthynas â phob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol.

(4)Yn achos apêl o dan Ran 8 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad—

(a)caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol wneud yr apêl;

(b)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr apêl i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol nad ydynt yn gwneud yr apêl ac y gŵyr ACC pwy ydynt;

(c)mae gan unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol yr hawl i fod yn bartïon i’r apêl;

(d)mae dyfarniad y tribiwnlys o dan adran 181 o DCRhT yn rhwymo’r holl ymddiriedolwyr perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 8 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Buddiannau buddiolwyr o dan ymddiriedolaethau penodolLL+C

11(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan ddelir eiddo mewn ymddiriedolaeth o dan gyfraith yr Alban, neu gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, o dan delerau sy’n golygu, pe bai’r ymddiriedolaeth yn cael effaith o dan gyfraith Cymru a Lloegr, yr ystyrid bod gan fuddiolwr fuddiant ecwitïol yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

(2)Mae’r buddiolwr i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai ganddo fuddiant ecwitïol yn eiddo’r ymddiriedolaeth er gwaethaf y ffaith na chydnabyddir unrhyw fuddiant o’r fath gan gyfraith yr Alban nac, yn ôl y digwydd, y wlad neu’r diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(3)Mae caffael buddiant buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth i’w drin fel pe bai’n ymwneud â chaffael buddiant yn eiddo’r ymddiriedolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 8 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3