6Pan fo—
(a)ymddiriedolwyr setliad yn ailddyrannu eiddo ymddiriedolaeth fel bod buddiolwr yn caffael buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth penodol ac yn peidio â bod â buddiant mewn eiddo ymddiriedolaeth arall, a
(b)y buddiolwr yn cydsynio i beidio â bod â buddiant yn yr eiddo arall hwnnw,
nid yw’r ffaith fod y buddiolwr yn cydsynio yn golygu bod cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3