ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU

Termau allweddol

2

(1)

Yn yr Atodlen hon, ystyr “ymddiriedolaeth noeth” yw ymddiriedolaeth y mae person yn dal eiddo fel ymddiriedolwr oddi tani—

(a)

ar ran person sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr, neu a fyddai â’r hawl honno oni bai am y ffaith ei fod o dan 18 oed neu heb fod â galluedd (o fewn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)) i weinyddu a rheoli eiddo a materion y person, neu

(b)

ar ran dau berson neu ragor sydd neu a fyddai â’r hawl honno ar y cyd,

ac mae’n cynnwys achos pan fo person yn dal eiddo fel enwebai ar ran rhywun arall.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at berson sydd â hawl absoliwt mewn perthynas â’r ymddiriedolwr yn gyfeiriad at achos pan fo gan y person yr hawl unigryw, yn ddarostyngedig yn unig i fodloni unrhyw arwystl, hawlrwym neu hawl arall sy’n ddyledus gan yr ymddiriedolwr—

(a)

i ddefnyddio’r eiddo i dalu tollau, trethi, costau neu alldaliadau eraill, neu

(b)

i gyfarwyddo sut i ymdrin â’r eiddo.

(3)

Yn yr Atodlen hon, ystyr “setliad” yw ymddiriedolaeth nad yw’n ymddiriedolaeth noeth.