ATODLEN 8YMDDIRIEDOLAETHAU

Ymddiriedolwyr perthnasol: apelau ac adolygiadau

10

(1)

Mae’n ofynnol cael cytundeb yr holl ymddiriedolwyr perthnasol os ymrwymir i gytundeb setlo sy’n ymwneud â’r trafodiad o dan adran 184 o DCRhT.

(2)

Caniateir i unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol roi hysbysiad am gais o dan adran 173 o DCRhT.

(3)

Pan fo ACC yn cynnal adolygiad o benderfyniad apeliadwy mewn perthynas â’r trafodiad yn dilyn cais o’r fath gan rai (ond nid pob un) o’r ymddiriedolwyr perthnasol⁠—

(a)

rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr adolygiad i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol eraill y gŵyr ACC pwy ydynt;

(b)

caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol eraill fod yn barti neu’n bartïon i’r adolygiad os ydynt yn hysbysu ACC am hynny yn ysgrifenedig;

(c)

rhaid i hysbysiad am gasgliadau ACC o dan adran 176(5), (6) neu (7) o DCRhT gael ei ddyroddi i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol y gŵyr ACC pwy ydynt;

(d)

mae adran 177 o DCRhT (effaith casgliadau adolygiad) yn gymwys mewn perthynas â phob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol.

(4)

Yn achos apêl o dan Ran 8 o DCRhT sy’n ymwneud â’r trafodiad—

(a)

caiff unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol wneud yr apêl;

(b)

rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am yr apêl i bob un o’r ymddiriedolwyr perthnasol nad ydynt yn gwneud yr apêl ac y gŵyr ACC pwy ydynt;

(c)

mae gan unrhyw un neu ragor o’r ymddiriedolwyr perthnasol yr hawl i fod yn bartïon i’r apêl;

(d)

mae dyfarniad y tribiwnlys o dan adran 181 o DCRhT yn rhwymo’r holl ymddiriedolwyr perthnasol.