ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 8TROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO
I1I732Rhagarweiniad
Mae’r Rhan hon o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth—
a
ynghylch trafodiadau penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a
b
i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo ddewis datgymhwyso paragraff 13 mewn perthynas â thrafodiadau tir penodol.
I2I833Ystyr partneriaethau buddsoddi mewn eiddo
1
Yn yr Atodlen hon, ystyr “partneriaeth buddsoddi mewn eiddo” yw partneriaeth y mae ei hunig weithgaredd neu ei phrif weithgaredd yn fuddsoddi neu ddelio mewn buddiannau trethadwy (pa un a yw’r gweithgaredd hwnnw yn cynnwys cynnal gweithrediadau adeiladu ar y tir o dan sylw ai peidio).
2
Yn is-baragraff (1), mae i “gweithrediadau adeiladu” yr un ystyr ag a roddir i “construction operations” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12) (gweler adran 74 o’r Ddeddf honno).
3
At ddibenion is-baragraff (1), mae “buddiannau trethadwy” yn cynnwys unrhyw fuddiant a fyddai’n fuddiant trethadwy oni bai am y ffaith ei fod yn ymwneud â thir y tu allan i Gymru.
I3I934Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan drosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a
b
pan fo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy.
2
At ddibenion y Ddeddf hon—
a
cymerir bod y trosglwyddiad yn drafodiad tir, a
b
mae’r trosglwyddiad yn drafodiad trethadwy.
3
Y prynwr yn y trafodiad yw’r person sy’n caffael cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth neu, yn ôl y digwydd, sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad.
4
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol eiddo perthnasol y bartneriaeth.
5
Y gyfran honno—
a
os nad oedd y person sy’n caffael y buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad;
b
os oedd y person yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad ac ar ei ôl.
6
Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math A o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—
a
unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,
b
les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi, ac
c
unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir.
7
Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math B o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—
a
unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,
b
les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi,
c
unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir,
d
unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny,
e
unrhyw fuddiant trethadwy y gwnaed dewis yn ei gylch o dan baragraff 36, mewn cysylltiad â’i drosglwyddiad i’r bartneriaeth, ac
f
unrhyw fuddiant trethadwy arall nad oedd ei drosglwyddiad i’r bartneriaeth o fewn paragraff 13(1).
8
Ystyr trosglwyddiad Math A yw—
a
trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—
i
holl fuddiant partner fel partner, neu ran ohono, yn cael ei gaffael gan berson arall (a gaiff fod yn bartner presennol), a
ii
cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei rhoi gan y person sy’n caffael y buddiant, neu ar ei ran, neu
b
trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—
i
person yn dod yn bartner,
ii
buddiant partner presennol yn y bartneriaeth yn cael ei ostwng neu bartner presennol yn peidio â bod yn bartner, a
iii
arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu o’r bartneriaeth gan y partner presennol a grybwyllir ym mharagraff (ii) (ac eithrio arian neu gyfwerth ariannol a dalwyd o’r adnoddau a oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).
9
Mae unrhyw drosglwyddiad arall y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn drosglwyddiad Math B.
10
Mae buddiant mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel buddiant trethadwy at ddibenion paragraff 8(2) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’r graddau y bo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn fuddiant trethadwy.
I4I1035Eithrio lesoedd rhent marchnadol
1
Nid yw les a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo perthnasol y bartneriaeth at ddibenion paragraff 34(6) na (7) os bodlonir y pedwar amod a ganlyn.
2
Amod 1 yw—
a
nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, a
b
nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad i unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent gael ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les.
3
Amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn rhent marchnadol ar adeg rhoi’r les.
4
Amod 3 yw—
a
bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu
b
os yw cyfnod y les yn fwy na 5 mlynedd—
i
bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod, a
ii
ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rent marchnadol ar y dyddiad adolygu.
5
Amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi sy’n golygu, yn union ar ôl i’r newid gael effaith, fod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol.
6
Rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.
7
Dyddiad adolygu yw dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.
I5I1136Dewis gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso paragraff 13
1
Nid yw paragraff 13 yn gymwys i drosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo os yw’r prynwr yn y trafodiad yn dewis i’r paragraff hwnnw beidio â bod yn gymwys.
2
Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad—
a
mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol) hefyd wedi ei ddatgymhwyso,
b
cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac
c
mae’r trafodiad o fewn Rhan 3 (trafodiadau cyffredin gan bartneriaeth) o’r Atodlen hon.
3
Rhaid i ddewis o dan y paragraff hwn gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno (gweler adran 41 o DCRhT am ddarpariaeth ynghylch diwygio ffurflenni treth).
4
Mae’r dewis yn un di-alw’n-ôl, felly ni chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
5
Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad (y “prif drafodiad”) mewn diwygiad i ffurflen dreth—
a
mae’r dewis yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, a
b
caniateir diwygio unrhyw ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad yr effeithir arno (o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth honno) er mwyn adlewyrchu’r dewis hwnnw.
6
Yn is-baragraff (5), ystyr “trafodiad yr effeithir arno” mewn perthynas â’r prif drafodiad yw trafodiad—
a
yr oedd paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo) yn gymwys iddo, a
b
sy’n cael effaith ar y dyddiad, neu ar ôl y dyddiad, y mae’r prif drafodiad yn cael effaith.
I6I1237Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewid
1
Pan fo adran 16 (cyfnewidiadau) yn gymwys i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad tir â phartner presennol, mae’r buddiant yn y bartneriaeth i’w drin fel prif fuddiant mewn tir, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 4 os yw eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys prif fuddiant mewn tir.
2
Yn is-baragraff (1), mae i “eiddo perthnasol y bartneriaeth” yr ystyr a roddir gan baragraffau 34(6) neu (7) (fel y bo’n briodol, ac fel y’u darllenir ar y cyd â pharagraff 35).
3
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraff 6 o Atodlen 4 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol) yn gymwys.