ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 6LL+CTRAFODIADAU ERAILL SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU

RhagarweiniadLL+C

28Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiad o bartneriaeth i bartneriaeth, a

(b)trafodiadau pan ffurfir partneriaeth yn llwyr gan gyrff corfforaethol.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaethLL+C

29(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad—

(i)yn drafodiad y mae paragraff 13 (trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth) yn gymwys iddo, a

(ii)hefyd yn drafodiad y mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth) yn gymwys iddo.

(2)Nid yw paragraffau 13(3) ac 21(2) yn gymwys.

(3)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw’r hyn a fyddai pe bai paragraff 13(3) yn gymwys neu, os yw’n fwy na hynny, yr hyn a fyddai pe bai paragraff 21(2) yn gymwys.

(4)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent⁠—

(a)nid yw paragraff 31 yn gymwys;

(b)cymerir mai’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yw’r mwyaf o—

(i)y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, neu

(ii)y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

(c)mae datgymhwyso’r band cyfradd sero y darperir ar ei gyfer gan baragraff 34 o Atodlen 6 yn cael effaith pe bai wedi cael effaith pe bai paragraff 31(6) o’r Atodlen hon yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 7 para. 29 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaetholLL+C

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan geir trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

(b)pan fo, yn union cyn y trafodiad, yr holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol;

(c)pan fo swm y cyfrannau is yn 75 neu’n fwy.

(2)Mae paragraffau 21 ac 31 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3)Mae paragraff 21 yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (2) a (3)—

(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir.

(4)Mae paragraff 31(2) yn cael effaith fel pe bai “is-baragraff (5)” wedi ei roi yn lle “is-baragraffau (3) i (6)”.

(5)Mae paragraff 31 yn cael effaith fel pe bai is-baragraffau (3), (4), (6) a (7) wedi eu hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 7 para. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3