ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 3TRAFODIADAU CYFFREDIN GAN BARTNERIAETH
I1I58Rhagarweiniad
Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gymwys i drafodiadau tir yr ymrwymir iddynt fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth, ac eithrio trafodiadau o fewn Rhannau 4 i 8 o’r Atodlen hon.
I2I69Cyfrifoldeb partneriaid
1
Mewn perthynas ag unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr yn y trafodiad, neu mewn perthynas ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu rhaid ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd.
2
Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw—
a
y personau sy’n bartneriaid ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a
b
unrhyw berson sy’n dod yn aelod o’r bartneriaeth ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
3
Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 10 (partneriaid cynrychiadol).
I3I710Partneriaid cynrychiadol
1
Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn cysylltiad â’r trafodiad gan y partneriaid cyfrifol, neu mewn perthynas â hwy, gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw bartner neu bartneriaid cynrychiadol, neu mewn perthynas â hwy.
2
Mae hyn yn cynnwys gwneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).
3
Ystyr “partner cynrychiadol” yw partner a enwebir gan fwyafrif o’r partneriaid i weithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth at ddibenion y Ddeddf hon.
4
Nid yw unrhyw enwebiad o’r fath, neu ddirymiad enwebiad o’r fath, ond yn cael effaith ar ôl i ACC gael ei hysbysu am yr enwebiad neu’r dirymiad.
I4I811Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigol
1
Pan fo rhwymedigaeth ar y partneriaid cyfrifol i dalu—
a
treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,
b
swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu
c
cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,
mae’r rhwymedigaeth yn rhwymedigaeth i’r partneriaid hynny ar y cyd ac yn unigol.
2
Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) gan berson na ddaeth yn bartner cyfrifol hyd ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad y mae treth yn daladwy mewn perthynas ag ef yn cael effaith.
3
Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn bartner hyd ar ôl yr adeg berthnasol.
4
Yr adeg berthnasol—
a
mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;
b
mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu log taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.
5
Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.