xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

RHAN 2LL+CDARPARIAETHAU CYFFREDINOL

PartneriaethauLL+C

3Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39);

(b)partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);

(c)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p. 12);

(d)ffyrm neu endid o gymeriad tebyg i unrhyw un neu ragor o’r rhai a enwir uchod a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan bartneriaid etc.LL+C

4(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)caiff buddiant trethadwy a ddelir gan neu ar ran partneriaeth ei drin fel pe bai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid, a

(b)caiff trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion partneriaeth ei drin fel pe ymrwymir iddo gan neu ar ran y partneriaid,

ac nid gan neu ar ran y bartneriaeth fel y cyfryw.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gymwys er gwaethaf y ffaith yr ystyrir bod partneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drethadwy ac eithrio pan ddarperir yn arbennig ar gyfer hynnyLL+C

5Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drafodiad trethadwy er gwaethaf y ffaith fod eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys tir, ac eithrio fel a ddarperir gan—

(a)paragraff 18 (trosglwyddo buddiant yn unol â threfniadau cynharach);

(b)paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Parhad partneriaethauLL+C

6At ddibenion y Ddeddf hon, caiff partneriaeth ei thrin fel yr un bartneriaeth er gwaethaf newid mewn aelodaeth os yw unrhyw berson a oedd yn aelod cyn y newid yn parhau i fod yn aelod ar ôl y newid.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau etc.LL+C

7At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau nac yn gwmni buddsoddi penagored.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 7 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3