ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 9CYMHWYSO ESEMPTIADAU, RHYDDHADAU, DARPARIAETHAU DCRHT A DARPARIAETHAU HYSBYSU

I1I244Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaeth

1

Nid yw trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 (trosglwyddo buddiant partneriaeth) yn drafodiad hysbysadwy onid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero.

2

Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero os yw’n cynnwys—

a

unrhyw swm y mae treth ar raddfa uwchlaw 0% i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, neu

b

unrhyw swm y byddai treth i’w chodi felly mewn cysylltiad ag ef oni bai am ryddhad.