Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan bartneriaid etc.LL+C
This section has no associated Explanatory Notes
4(1)At ddibenion y Ddeddf hon—
(a)caiff buddiant trethadwy a ddelir gan neu ar ran partneriaeth ei drin fel pe bai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid, a
(b)caiff trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion partneriaeth ei drin fel pe ymrwymir iddo gan neu ar ran y partneriaid,
ac nid gan neu ar ran y bartneriaeth fel y cyfryw.
(2)Mae is-baragraff (1) yn gymwys er gwaethaf y ffaith yr ystyrir bod partneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3