xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
37(1)Pan fo adran 16 (cyfnewidiadau) yn gymwys i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad tir â phartner presennol, mae’r buddiant yn y bartneriaeth i’w drin fel prif fuddiant mewn tir, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 4 os yw eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys prif fuddiant mewn tir.
(2)Yn is-baragraff (1), mae i “eiddo perthnasol y bartneriaeth” yr ystyr a roddir gan baragraffau 34(6) neu (7) (fel y bo’n briodol, ac fel y’u darllenir ar y cyd â pharagraff 35).
(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraff 6 o Atodlen 4 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol) yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 37 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3