ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 8TROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO

37Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewid

1

Pan fo adran 16 (cyfnewidiadau) yn gymwys i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad tir â phartner presennol, mae’r buddiant yn y bartneriaeth i’w drin fel prif fuddiant mewn tir, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 4 os yw eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys prif fuddiant mewn tir.

2

Yn is-baragraff (1), mae i “eiddo perthnasol y bartneriaeth” yr ystyr a roddir gan baragraffau 34(6) neu (7) (fel y bo’n briodol, ac fel y’u darllenir ar y cyd â pharagraff 35).

3

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraff 6 o Atodlen 4 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol) yn gymwys.