Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Ystyr partneriaethau buddsoddi mewn eiddoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

33(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “partneriaeth buddsoddi mewn eiddo” yw partneriaeth y mae ei hunig weithgaredd neu ei phrif weithgaredd yn fuddsoddi neu ddelio mewn buddiannau trethadwy (pa un a yw’r gweithgaredd hwnnw yn cynnwys cynnal gweithrediadau adeiladu ar y tir o dan sylw ai peidio).

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “gweithrediadau adeiladu” yr un ystyr ag a roddir i “construction operations” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12) (gweler adran 74 o’r Ddeddf honno).

(3)At ddibenion is-baragraff (1), mae “buddiannau trethadwy” yn cynnwys unrhyw fuddiant a fyddai’n fuddiant trethadwy oni bai am y ffaith ei fod yn ymwneud â thir y tu allan i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 33 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3