Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinolLL+C
21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan drosglwyddir buddiant trethadwy—
(a)o bartneriaeth i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu
(b)o bartneriaeth i berson sy’n gysylltiedig â pherson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid.
(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (yn ddarostyngedig i baragraff 30) yn hafal i—
Ffigwr 10
pan fo—
GM yn werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir, ac
SCI yn swm y cyfrannau is.
(3)Mae paragraff 22 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.
(4)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.
(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae eiddo a oedd yn eiddo’r bartneriaeth cyn i’r bartneriaeth gael ei diddymu neu cyn iddi beidio â bodoli fel arall i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn eiddo’r bartneriaeth hyd nes y caiff ei ddosbarthu.
(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 21 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3