ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 1RHAGARWEINIAD
Trosolwg
2
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
(a)
mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch trin partneriaethau;
(b)
mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau cyffredin y mae partneriaeth yn ymwneud â hwy;
(c)
mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth o bartner neu o bersonau penodol eraill;
(d)
mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartner neu i bersonau penodol eraill;
(e)
mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau rhwng partneriaethau ac ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â phartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol;
(f)
mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau i bartneriaeth neu o bartneriaeth pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent;
(g)
mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau buddiant mewn partneriaethau buddsoddi mewn eiddo, a thrafodiadau sy’n ymwneud â hynny;
(h)
mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag esemptiadau a rhyddhadau i drafodiadau penodol sy’n ymwneud â phartneriaethau, ynghylch cymhwyso darpariaethau penodol yn DCRhT i drafodiadau penodol sy’n ymwneud â phartneriaethau, ac ynghylch hysbysu am drafodiadau o’r fath;
(i)
mae Rhan 10 yn diffinio ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.