ATODLEN 7PARTNERIAETHAU
RHAN 4TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH
13Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth,
b
person yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am fuddiant yn y bartneriaeth, neu
c
person sy’n gysylltiedig ag—
i
partner, neu
ii
person sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef,
yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio’r bartneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.
3
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i—
Ffigwr 9
pan fo—
GM yn werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac
SCI yn swm y cyfrannau is.
4
Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.
5
Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.
6
Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, ond y partneriaid cyfrifol yw—
a
y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a
b
unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad ag ef.
7
Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.