Search Legislation

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CRHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL

RhentLL+C

9(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae un swm y mynegir ei fod yn daladwy mewn cysylltiad â rhent a materion eraill ond nas dosrannwyd i’w drin yn gyfan gwbl fel rhent.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn cael effaith ar gymhwyso paragraff 4 o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy: dosrannu teg a rhesymol) pan fynegir bod symiau ar wahân yn daladwy mewn cysylltiad â rhent a materion eraill.

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw “rhent” yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi les sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod cyn rhoi’r les.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhent amrywiol neu ansicrLL+C

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm y rhent sy’n daladwy o dan les—

(a)yn amrywio yn unol â darpariaeth yn y les, neu

(b)yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei ganfod.

(2)O ran rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les—

(a)mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall, a

(b)yn unol â hynny mae adrannau 19 a 20 yn gymwys os yw’r swm yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei ganfod.

(3)O ran rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod ar ôl diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, tybir bod swm blynyddol y rhent, ym mhob achos, yn cyfateb i’r swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod 5 mlynedd gyntaf y cyfnod.

(4)Wrth bennu’r swm hwnnw—

(a)diystyrier paragraffau 7(2) ac 8(3) (pan roddir les bellach, gostyngiad tybiedig mewn rhent ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd), a

(b)os oes angen, ystyrier unrhyw symiau a bennir yn unol ag is-baragraff (2)(b).

(5)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 12 (addasiad pan fo rhent yn peidio â bod yn ansicr).

(6)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 12, mae’r achosion pan fo swm y rhent sy’n daladwy o dan les yn ansicr neu heb ei ganfod yn cynnwys achosion pan fo posibilrwydd y caiff y swm hwnnw ei amrywio o dan—

(a)adran 12, 13 neu 33 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) (darpariaethau sy’n ymwneud â chynnydd, gostyngiad neu amrywiadau eraill mewn rhent), neu

(b)Rhan 2 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8) (adolygiad rhent o dan denantiaeth busnes fferm).

(7)At ddibenion y Ddeddf hon, rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu rhent yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Adolygiad rhent cyntaf yn chwarter olaf y bumed flwyddynLL+C

11Pan fo—

(a)les yn cynnwys darpariaeth y caniateir addasu’r rhent oddi tani,

(b)o dan y ddarpariaeth honno, yr addasiad cyntaf o’r fath (neu’r unig addasiad o’r fath)—

(i)yn addasiad i swm sydd (cyn yr addasiad hwnnw) yn ansicr, a

(ii)yn cael effaith o ddyddiad (y “dyddiad adolygu”) a fynegir fel un sydd 5 mlynedd ar ôl dyddiad penodedig, ac

(c)y dyddiad penodedig o fewn y cyfnod o 3 mis cyn dechrau cyfnod y les,

mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn gyfeiriadau at y cyfnod sy’n dechrau â dechrau’r cyfnod ac sy’n dod i ben â’r dyddiad adolygu ac mae cyfeiriadau at bumed flwyddyn cyfnod y les i’w darllen yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Addasu treth pan bennir y rhent ar y dyddiad ailystyriedLL+C

12(1)Pan fo, yn achos trafodiad tir sy’n ymwneud â les—

(a)adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 10, a

(b)y dyddiad ailystyried yn cyrraedd,

rhaid i’r prynwr yn y trafodiad bennu, ar y dyddiad ailystyried, y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les.

(2)Mae paragraffau 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch addasu’r dreth sy’n daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir (ac unrhyw drafodiad cysylltiol o ran trafodiad o’r fath) o ganlyniad i bennu rhent felly.

(3)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 13 a 14, y dyddiad ailystyried yw—

(a)y dyddiad sydd ar ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, neu

(b)unrhyw ddyddiad cynharach pan fo swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn peidio â bod yn ansicr.

(4)At ddibenion is-baragraff (3)(b) a pharagraff 13(2), mae swm y rhent sy’n daladwy yn peidio â bod yn ansicr—

(a)yn achos rhent dibynnol, pan geir y digwyddiad dibynnol neu pan ddaw’n amlwg na fydd yn digwydd;

(b)yn achos rhent ansicr neu heb ei ganfod, pan gaiff y swm ei ganfod.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tandaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyriedLL+C

13(1)Os yw, o ganlyniad i bennu ar y dyddiad ailystyried y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les—

(a)trafodiad tir yn dod yn drafodiad hysbysadwy, neu

(b)treth ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir neu dreth yn daladwy pan nad oedd dim yn daladwy cyn hynny,

rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth bellach (gan gynnwys hunanasesiad) mewn cysylltiad â’r trafodiad tir cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ailystyried.

(2)Pan fo—

(a)ffurflen dreth yn cael ei dychwelyd o dan is-baragraff (1) o ganlyniad i bennu’r rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les ar y dyddiad sydd ar ddiwedd pumed flwyddyn y cyfnod hwnnw,

(b)ar adeg dychwelyd y ffurflen dreth, y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy yn parhau i fod yn ansicr, ac

(c)yn ddim hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, y rhent hwnnw yn peidio â bod yn ansicr,

rhaid i’r prynwr ddiwygio’r ffurflen dreth yn unol ag adran 41 o DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Gordaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyriedLL+C

14(1)Os yw llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir na’r hyn a dalwyd eisoes, o ganlyniad i bennu ar y dyddiad ailystyried y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les—

(a)caiff y prynwr, o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny;

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, caiff y prynwr (os na ddiwygir y ffurflen dreth) wneud hawliad i’r swm a ordalwyd gael ei ad-dalu yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-baragraff (2).

(2)O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau

Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae paragraff 14(1)(b) o Atodlen 6 i DTTT yn gymwys iddo, gael ei wneud cyn diwedd yr olaf o’r canlynol—

(a)y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn ymwneud â hi, neu

(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad ailystyried (o fewn ystyr paragraff 12(3) o’r Atodlen honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 6 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Premiymau gwrtholLL+C

15(1)Nid yw premiwm gwrthol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy yn achos rhoi, aseinio neu ildio les.

(2)Ystyr “premiwm gwrthol” yw—

(a)mewn perthynas â rhoi les, premiwm sy’n symud oddi wrth y landlord i’r tenant;

(b)mewn perthynas ag aseinio les, premiwm sy’n symud oddi wrth yr aseiniwr i’r aseinai;

(c)mewn perthynas ag ildio les, premiwm sy’n symud oddi wrth y tenant i’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 6 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwyLL+C

16(1)Yn achos rhoi les nid oes yr un o’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy—

(a)unrhyw ymgymeriad gan y tenant i atgyweirio, i gynnal a chadw neu i yswirio’r eiddo sydd ar les;

(b)unrhyw ymgymeriad gan y tenant i dalu unrhyw swm mewn cysylltiad â gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw neu yswiriant neu gostau rheoli’r landlord;

(c)unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant nad yw’n effeithio ar y rhent y byddai tenant yn fodlon ei dalu ar y farchnad agored;

(d)unrhyw warant am dalu’r rhent neu gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau eraill y tenant o dan y les;

(e)unrhyw rent penydiol, neu rent uwch o natur rhent penydiol, sy’n daladwy mewn cysylltiad â thorri unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r tenant o dan y les;

(f)unrhyw atebolrwydd ar ran y tenant ar gyfer costau o dan adran 14(2) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) neu adran 60 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (costau i’w hysgwyddo gan berson sy’n arfer hawliau statudol i gael les);

(g)unrhyw rwymedigaeth arall ar ran y tenant i ysgwyddo costau neu dreuliau rhesymol y landlord wrth roi’r les neu’n atodol i hynny;

(h)unrhyw rwymedigaeth o dan y les i drosglwyddo i’r landlord, pan derfynir y les, hawliau i daliadau a roddwyd i’r tenant o dan [F1gynllun y taliad sylfaenol (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013)] mewn cysylltiad â thir sy’n ddarostyngedig i’r les.

(2)Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaeth, nid yw taliad a wneir i gyflawni’r rhwymedigaeth yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(3)Nid yw gollwng rhwymedigaeth fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy mewn perthynas ag ildio’r les.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 6 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ildio les bresennol am les newyddLL+C

17(1)Pan roddir les yn gydnabyddiaeth am ildio les bresennol rhwng yr un partïon—

(a)nid yw rhoi’r les newydd yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr ildio, a

(b)nid yw’r ildio yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les newydd.

(2)Nid yw paragraff 5 (cyfnewidiadau) o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy) yn gymwys mewn achos o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 6 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Aseinio les: aseinai yn ymgymryd â rhwymedigaethauLL+C

18Yn achos aseinio les nid yw’r ffaith fod yr aseinai yn ysgwyddo’r rhwymedigaeth—

(a)i dalu rhent, neu

(b)i gyflawni neu gadw at unrhyw un neu ragor o ymgymeriadau eraill y tenant o dan y les,

yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr aseiniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 6 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Benthyciad neu flaendal mewn cysylltiad â rhoi neu aseinio lesLL+C

19(1)Pan fo, o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad â rhoi les—

(a)y tenant, neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig â’r tenant neu’n gweithredu ar ei ran, yn talu blaendal neu’n rhoi benthyciad i unrhyw berson, a

(b)ad-dalu’r blaendal neu’r benthyciad cyfan, neu ran o’r blaendal neu’r benthyciad, yn dibynnu ar unrhyw beth a wneir gan y tenant neu unrhyw beth na wneir ganddo, neu ar ei farwolaeth,

mae swm y blaendal neu’r benthyciad (gan ddiystyru unrhyw ad-daliad) i’w gymryd at ddibenion y Ddeddf hon i fod yn gydnabyddiaeth heblaw am rent a roddir am y les.

(2)Pan fo, o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad ag aseinio les—

(a)yr aseinai, neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag ef neu’n gweithredu ar ei ran, yn talu blaendal neu’n rhoi benthyciad i unrhyw berson, a

(b)ad-dalu’r blaendal neu’r benthyciad cyfan, neu ran o’r blaendal neu’r benthyciad, yn dibynnu ar unrhyw beth a wneir gan yr aseinai neu unrhyw beth na wneir ganddo, neu ar ei farwolaeth,

mae swm y blaendal neu’r benthyciad (gan ddiystyru unrhyw ad-daliad) i’w gymryd at ddibenion y Ddeddf hon i fod yn gydnabyddiaeth heblaw am rent a roddir am aseinio’r les.

(3)Nid yw is-baragraff (1) na (2) yn gymwys mewn perthynas â blaendal os nad yw’r swm a fyddai, fel arall, yn dod o fewn yr is-baragraff o dan sylw mewn perthynas â rhoi’r les neu aseinio’r les yn fwy na dwywaith yr uchafswm rhent perthnasol.

(4)Yr uchafswm rhent perthnasol yw—

(a)mewn perthynas â rhoi les, y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les;

(b)mewn perthynas ag aseinio les, y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol sydd o fewn 5 mlynedd gyntaf y cyfnod sy’n dal yn weddill ar ddyddiad yr aseiniad.

(5)Wrth bennu y swm uchaf o rent at ddibenion is-baragraff (4)—

(a)diystyrier paragraffau 7(2) ac 8(3) (pan roddir les bellach, gostyngiad tybiedig mewn rhent ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd), a

(b)os oes angen, ystyrier unrhyw symiau a bennir yn unol â pharagraff 10(2)(b) (pennu rhent dibynnol, ansicr neu heb ei ganfod).

(6)Nid yw treth i’w chodi yn rhinwedd y paragraff hwn pe na byddai i’w chodi ond o ganlyniad i gymhwyso paragraff 34 (sy’n eithrio’r band cyfradd sero mewn achosion pan na fo’r rhent perthnasol sydd i’w briodoli i eiddo amhreswyl yn llai na £1,000 y flwyddyn) i swm o gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 6 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources