ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 1RHAGARWEINIAD

I1I21Trosolwg

1

Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon mewn perthynas â lesoedd.

2

Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—

a

mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch pennu hyd les at ddibenion y Ddeddf hon a darpariaeth gysylltiedig ynghylch lesoedd y mae eu cyfnodau yn gorgyffwrdd;

b

mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin cydnabyddiaeth mewn perthynas â lesoedd, gan gynnwys rhent a chydnabyddiaeth ar wahân i rent, ac mae’n gwneud darpariaeth ynghylch peidio â thrin cydnabyddiaeth benodol fel cydnabyddiaeth drethadwy;

c

mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cytundebau ar gyfer les a’r modd y caiff aseiniadau penodol ac amrywiadau penodol i lesoedd eu trin at ddibenion y Ddeddf hon;

d

mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth nad oes dim treth i’w chodi ar yr elfen rhent o lesoedd preswyl, yn nodi sut y mae’r swm y codir treth arno i’w gyfrifo ar yr elfen rhent o lesoedd eraill, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo’r dreth a godir ar gydnabyddiaeth ar wahân i rent.