Y rhent perthnasolLL+C
36(1)Ym mharagraffau 34 a 35—
(a)ystyr “y rhent perthnasol” yw—
(i)y rhent blynyddol mewn perthynas â’r trafodiad o dan sylw, neu
(ii)os yw’r trafodiad hwnnw yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol y mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer yn rhent neu’n cynnwys rhent, cyfanswm y rhenti blynyddol mewn perthynas â’r holl drafodiadau hynny;
(b)ystyr “y swm penodedig” yw swm o rent perthnasol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(2)Yn is-baragraff (1)(a) ystyr “y rhent blynyddol” yw—
(a)y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod cyfnod y les, neu
(b)os yw—
(i)symiau gwahanol o rent yn daladwy ar gyfer gwahanol rannau o’r cyfnod, a
(ii)y symiau hynny (neu unrhyw un neu ragor ohonynt) yn rhai y gellir eu canfod ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,
y rhent blynyddol cyfartalog yn ystod y cyfnod y mae’r rhent uchaf y gellir ei ganfod yn daladwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 6 para. 36(1)(a)(2) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
I3Atod. 6 para. 36(1)(b) mewn grym ar 18.10.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/953, ergl. 2(g)(ii)
I4Atod. 6 para. 36(1)(b) mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/34, ergl. 3
