Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: dim band cyfradd sero ar gyfer lesoedd amhreswylLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn achos caffael les amhreswyl pan fo—
(a)cydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent, a
(b)adran 27 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau nad ydynt yn gysylltiol) neu 28 (swm y dreth sydd i’w godi: trafodiadau cysylltiol) yn gymwys i’r caffaeliad.
(2)Os y swm penodedig o leiaf yw’r rhent perthnasol, nid yw’r band cyfradd sero yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent ac felly, caiff unrhyw achos a fyddai wedi bod o fewn y band hwnnw ei drin fel pe bai o fewn y band treth nesaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 6 para. 34 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3
