ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 5CYFRIFO’R DRETH SYDD I’W CHODI

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: cyffredinol

33

(1)

Pan fo cydnabyddaeth drethadwy ar wahân i rent yn achos caffael les, mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn gymwys mewn perthynas â’r gydnabyddaeth honno fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall (ond gweler paragraffau 34 a 35).

(2)

Mae treth sydd i’w chodi o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon mewn cysylltiad â rhent yn ychwanegol at unrhyw dreth sydd i’w chodi o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent.