ATODLEN 6LESOEDD

RHAN 5CYFRIFO’R DRETH SYDD I’W CHODI

I1I226Lesoedd preswyl, lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg

At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae trafodiad—

a

yn gaffael les breswyl—

i

os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl, neu

ii

pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf eiddo preswyl;

b

yn gaffael les amhreswyl—

i

os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl, neu

ii

pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun pob trafodiad yn gyfan gwbl ar ffurf tir nad yw’n eiddo preswyl;

c

yn gaffael les gymysg—

i

os yw’n gaffael les neu fuddiant trethadwy arall sy’n berthnasol i les, y mae ei phrif destun yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl, neu

ii

pan fo’r caffaeliad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, os yw prif destun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau yn cynnwys tir nad yw’n eiddo preswyl.