xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 18/10/2017
Valid from 01/04/2018
25(1)Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn cynyddu o ddyddiad cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n achos o roi les yn gydnabyddiaeth am y rhent ychwanegol a wnaed yn daladwy ganddo.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i gynnydd mewn rhent yn unol ag—
(a)darpariaeth a gynhwyswyd yn y les cyn ei hamrywio, neu
(b)darpariaeth a grybwyllir ym mharagraff 10(6)(a) neu (b) (amrywiadau i lesoedd amaethyddol penodol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)