Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Aseinio cytundeb ar gyfer lesLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo person (“P”) yn aseinio buddiant P fel tenant o dan gytundeb ar gyfer les.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys nid yw Atodlen 2 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt cyn cwblhau contract) yn gymwys.

(3)Os digwydd yr aseinio heb i’r cytundeb fod wedi ei gyflawni’n sylweddol, mae adran 10 (contract a throsglwyddo) yn cael effaith fel pe bai—

(a)y cytundeb gyda’r aseinai (“A”) ac nid gyda P, a

(b)y gydnabyddiaeth a roddir gan A am ymrwymo i’r cytundeb yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth a roddir gan A ar gyfer yr aseiniad.

(4)Os digwydd yr aseinio ar ôl cyflawni’r cytundeb yn sylweddol—

(a)mae’r aseiniad yn drafodiad tir ar wahân, a

(b)y dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw yn cael effaith yw dyddiad yr aseiniad.

(5)Pan fo aseiniadau olynol, mae’r paragraff hwn yn cael effaith mewn perthynas â phob un ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 21 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3