ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
I1I219Benthyciad neu flaendal mewn cysylltiad â rhoi neu aseinio les
1
Pan fo, o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad â rhoi les—
a
y tenant, neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig â’r tenant neu’n gweithredu ar ei ran, yn talu blaendal neu’n rhoi benthyciad i unrhyw berson, a
b
ad-dalu’r blaendal neu’r benthyciad cyfan, neu ran o’r blaendal neu’r benthyciad, yn dibynnu ar unrhyw beth a wneir gan y tenant neu unrhyw beth na wneir ganddo, neu ar ei farwolaeth,
mae swm y blaendal neu’r benthyciad (gan ddiystyru unrhyw ad-daliad) i’w gymryd at ddibenion y Ddeddf hon i fod yn gydnabyddiaeth heblaw am rent a roddir am y les.
2
Pan fo, o dan drefniadau a wneir mewn cysylltiad ag aseinio les—
a
yr aseinai, neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag ef neu’n gweithredu ar ei ran, yn talu blaendal neu’n rhoi benthyciad i unrhyw berson, a
b
ad-dalu’r blaendal neu’r benthyciad cyfan, neu ran o’r blaendal neu’r benthyciad, yn dibynnu ar unrhyw beth a wneir gan yr aseinai neu unrhyw beth na wneir ganddo, neu ar ei farwolaeth,
mae swm y blaendal neu’r benthyciad (gan ddiystyru unrhyw ad-daliad) i’w gymryd at ddibenion y Ddeddf hon i fod yn gydnabyddiaeth heblaw am rent a roddir am aseinio’r les.
3
Nid yw is-baragraff (1) na (2) yn gymwys mewn perthynas â blaendal os nad yw’r swm a fyddai, fel arall, yn dod o fewn yr is-baragraff o dan sylw mewn perthynas â rhoi’r les neu aseinio’r les yn fwy na dwywaith yr uchafswm rhent perthnasol.
4
Yr uchafswm rhent perthnasol yw—
a
mewn perthynas â rhoi les, y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les;
b
mewn perthynas ag aseinio les, y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol sydd o fewn 5 mlynedd gyntaf y cyfnod sy’n dal yn weddill ar ddyddiad yr aseiniad.
5
Wrth bennu y swm uchaf o rent at ddibenion is-baragraff (4)—
a
diystyrier paragraffau 7(2) ac 8(3) (pan roddir les bellach, gostyngiad tybiedig mewn rhent ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd), a
b
os oes angen, ystyrier unrhyw symiau a bennir yn unol â pharagraff 10(2)(b) (pennu rhent dibynnol, ansicr neu heb ei ganfod).
6
Nid yw treth i’w chodi yn rhinwedd y paragraff hwn pe na byddai i’w chodi ond o ganlyniad i gymhwyso paragraff 34 (sy’n eithrio’r band cyfradd sero mewn achosion pan na fo’r rhent perthnasol sydd i’w briodoli i eiddo amhreswyl yn llai na £1,000 y flwyddyn) i swm o gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) neu (2).