Ildio les bresennol am les newyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
17(1)Pan roddir les yn gydnabyddiaeth am ildio les bresennol rhwng yr un partïon—
(a)nid yw rhoi’r les newydd yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr ildio, a
(b)nid yw’r ildio yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les newydd.
(2)Nid yw paragraff 5 (cyfnewidiadau) o Atodlen 4 (cydnabyddiaeth drethadwy) yn gymwys mewn achos o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3