ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
Premiymau gwrthol
15
(1)
Nid yw premiwm gwrthol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy yn achos rhoi, aseinio neu ildio les.
(2)
Ystyr “premiwm gwrthol” yw—
(a)
mewn perthynas â rhoi les, premiwm sy’n symud oddi wrth y landlord i’r tenant;
(b)
mewn perthynas ag aseinio les, premiwm sy’n symud oddi wrth yr aseiniwr i’r aseinai;
(c)
mewn perthynas ag ildio les, premiwm sy’n symud oddi wrth y tenant i’r landlord.