Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Gordaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyried

This section has no associated Explanatory Notes

14(1)Os yw llai o dreth yn daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir na’r hyn a dalwyd eisoes, o ganlyniad i bennu ar y dyddiad ailystyried y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les—

(a)caiff y prynwr, o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth, ei diwygio yn unol â hynny;

(b)ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, caiff y prynwr (os na ddiwygir y ffurflen dreth) wneud hawliad i’r swm a ordalwyd gael ei ad-dalu yn unol â Phennod 7 o Ran 3 o DCRhT fel y’i haddesir gan is-baragraff (2).

(2)O ran ei chymhwyso i hawliad y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo, mae Pennod 7 o Ran 3 o DCRhT yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle adran 78—

78Terfyn amser ar gyfer gwneud hawliadau

Rhaid i hawliad o dan adran 63 y mae paragraff 14(1)(b) o Atodlen 6 i DTTT yn gymwys iddo, gael ei wneud cyn diwedd yr olaf o’r canlynol—

(a)y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y mae’r dreth trafodiadau tir a dalwyd eisoes yn ymwneud â hi, neu

(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad ailystyried (o fewn ystyr paragraff 12(3) o’r Atodlen honno).