ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
Adolygiad rhent cyntaf yn chwarter olaf y bumed flwyddyn
11
Pan fo—
(a)
les yn cynnwys darpariaeth y caniateir addasu’r rhent oddi tani,
(b)
o dan y ddarpariaeth honno, yr addasiad cyntaf o’r fath (neu’r unig addasiad o’r fath)—
(i)
yn addasiad i swm sydd (cyn yr addasiad hwnnw) yn ansicr, a
(ii)
yn cael effaith o ddyddiad (y “dyddiad adolygu”) a fynegir fel un sydd 5 mlynedd ar ôl dyddiad penodedig, ac
(c)
y dyddiad penodedig o fewn y cyfnod o 3 mis cyn dechrau cyfnod y les,
mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn gyfeiriadau at y cyfnod sy’n dechrau â dechrau’r cyfnod ac sy’n dod i ben â’r dyddiad adolygu ac mae cyfeiriadau at bumed flwyddyn cyfnod y les i’w darllen yn unol â hynny.