ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 3RHENT A CHYDNABYDDIAETH ARALL
10Rhent amrywiol neu ansicr
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo swm y rhent sy’n daladwy o dan les—
a
yn amrywio yn unol â darpariaeth yn y les, neu
b
yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei ganfod.
2
O ran rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les—
a
mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chydnabyddiaeth drethadwy arall, a
b
yn unol â hynny mae adrannau 19 a 20 yn gymwys os yw’r swm yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei ganfod.
3
O ran rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod ar ôl diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, tybir bod swm blynyddol y rhent, ym mhob achos, yn cyfateb i’r swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod 5 mlynedd gyntaf y cyfnod.
4
Wrth bennu’r swm hwnnw—
a
diystyrier paragraffau 7(2) ac 8(3) (pan roddir les bellach, gostyngiad tybiedig mewn rhent ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd), a
b
os oes angen, ystyrier unrhyw symiau a bennir yn unol ag is-baragraff (2)(b).
5
Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 12 (addasiad pan fo rhent yn peidio â bod yn ansicr).
6
At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 12, mae’r achosion pan fo swm y rhent sy’n daladwy o dan les yn ansicr neu heb ei ganfod yn cynnwys achosion pan fo posibilrwydd y caiff y swm hwnnw ei amrywio o dan—
a
adran 12, 13 neu 33 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) (darpariaethau sy’n ymwneud â chynnydd, gostyngiad neu amrywiadau eraill mewn rhent), neu
b
Rhan 2 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8) (adolygiad rhent o dan denantiaeth busnes fferm).
7
At ddibenion y Ddeddf hon, rhaid diystyru unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addasu rhent yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, y mynegai prisiau defnyddwyr neu unrhyw fynegai tebyg arall a ddefnyddir i fynegi cyfradd chwyddiant.