xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

RHAN 2LL+CPRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL

RhagarweiniadLL+C

2Mae’r Rhan hon yn nodi pa bryd y mae trafodiad trethadwy yn “trafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch” at ddiben rheoliadau o dan adran 24(1)(b) yn achos trafodiad sy’n ymwneud ag annedd pan fo’r prynwr yn unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwchLL+C

3(1)Mae trafodiad trethadwy yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch—

(a)os yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a

(b)os yw paragraff 5 yn gymwys.

(2)Mae trafodiad yn dod o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os yw’r prynwr yn unigolyn,

(b)os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn annedd (“yr annedd a brynir”), ac

(c)os yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn £40,000 neu ragor.

(3)Ond nid yw trafodiad yn dod o fewn is-baragraff (2)—

(a)os yw’r annedd a brynir yn ddarostyngedig i les,

(b)os yw prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno, ac

(c)os yw’r les yn bodloni’r amodau a nodir yn is-baragraff (4),

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Yr amodau yw—

(a)nad yw’r les yn cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)bod gan y les gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(5)Mae’r paragraff hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir yn—

(a)paragraff 7 (eithriad ar gyfer buddiant yn yr un annedd), a

(b)paragraff 8 (eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa).

(6)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae i “yr annedd a brynir” yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

4Pan fo paragraff 9 yn gymwys, mae rhyng-drafodiad (o fewn yr ystyr a roddir gan y paragraff hwnnw) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arallLL+C

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad—

(a)os oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i’r annedd a brynir, a

(b)os yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor,

ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(2)Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1) yn rifersiwn ar les—

(a)nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a

(b)sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.

(3)Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).

(4)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

GM × CB

Ffigwr 4

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CB yn—

    (a)

    canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu

    (b)

    pan fo—

    (i)

    y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

    (ii)

    hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,

    canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.

(5)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—

Ffigwr 5

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a

  • CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.

(6)At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—

(a)os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a

(b)os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Dau brynwr neu ragorLL+C

6Pan fo dau brynwr neu ragor sy’n unigolion mewn trafodiad—

(a)mae’r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 3 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr;

(b)mae rhyng-drafodiad (o fewn ystyr paragraff 9(2)) i’w drin fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw paragraff 9 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfaLL+C

7Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant—

(a)mewn annedd yr oedd gan y prynwr [F1neu briod neu bartner sifil y prynwr], yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, brif fuddiant arall ynddi, a

(b)mewn annedd sydd, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 5 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Eithriad ar gyfer disodli prif breswylfaLL+C

8(1)Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os yw’r prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr ar y pryd, mewn trafodiad tir arall (“y trafodiad blaenorol”) a oedd yn cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oedd gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith, unrhyw brif fuddiant yn yr annedd a werthir,

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (b), ac

(e)os nad yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi caffael prif fuddiant mewn unrhyw annedd arall gyda’r bwriad iddi fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

(3)Nid yw is-baragraff (2)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad oedd y ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, caiff yr annedd a brynir ddod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os oedd y prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr, mewn trafodiad tir arall sy’n cael effaith ar ddyddiad yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, yn gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oes gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith, brif fuddiant yn yr annedd a werthir, a

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith.

(5)Nid yw is-baragraff (4)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir arall hwnnw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad ag annedd sy’n dod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, gweler paragraff 23.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 5 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Disodli prif breswylfa: trafodiadau yn ystod y cyfnod interimLL+C

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’r prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall, a

(b)pan fo’r rhyng-drafodiad yn cael effaith ar ddyddiad sydd yn ystod y cyfnod interim.

(2)Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad—

(a)sy’n dod o fewn paragraff 3(2), a

(b)nad yw paragraff 5 yn gymwys iddo.

(3)Wrth benderfynu pa un a yw trafodiad yn dod o fewn paragraff 3(2) at ddibenion y paragraff hwn, mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(3) at ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn cael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at ddiwedd y dydd ar y naill neu’r llall o’r dyddiadau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—

(a)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)y dyddiad y daw’r cyfnod interim i ben.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae prynwr yn disodli prif breswylfa mewn trafodiad arall—

(a)mewn perthynas ag annedd yng Nghymru, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 8(2) mewn cysylltiad â’r trafodiad,

(b)mewn perthynas ag annedd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14) mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu

(c)mewn perthynas ag annedd yn yr Alban, os bodlonir yr amodau a nodir ym mharagraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11) mewn cysylltiad â’r trafodiad.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr y cyfnod interim yw—

(a)pan fo is-baragraff (4)(a) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(b), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(2)(a);

(b)pan fo is-baragraff (4)(b) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol, o fewn yr ystyr a roddir i “the previous transaction” gan baragraff 3(6)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), yn cael effaith, a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw, o fewn yr ystyr a roddir i “the transaction concerned” gan baragraff 3(6)(a) o’r Atodlen honno, yn cael effaith;

(c)pan fo is-baragraff (4)(c) yn gymwys, y cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r dyddiad y gwaredodd y prynwr berchenogaeth annedd fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 2(2)(a) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013 (dsa 11), a

(ii)sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael effaith.

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrin rhyng-drafodiad fel pe bai’n drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch, gweler paragraff 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 5 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3