ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 1RHAGARWEINIAD
1Trosolwg
1
Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.
2
Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—
a
mae Rhan 2 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prynwr yn unigolyn a’r trafodiad yn ymwneud ag annedd;
b
mae Rhan 3 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan fo’r prynwr yn unigolyn a’r trafodiad yn ymwneud ag anheddau lluosog;
c
mae Rhan 4 yn disgrifio’r trafodiadau trethadwy sy’n drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch pan na fo’r prynwr yn unigolyn;
d
mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth atodol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch dychwelyd ffurflenni treth ac ynghylch cymhwyso’r darpariaethau yn Rhannau 2, 3 a 4 o dan amgylchiadau penodedig;
e
mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaeth ddehongli.