Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Eithriad ar gyfer disodli prif breswylfaLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

8(1)Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn, mae’r annedd a brynir yn disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os yw’r prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr ar y pryd, mewn trafodiad tir arall (“y trafodiad blaenorol”) a oedd yn cael effaith ar ddyddiad yn ystod [F1y cyfnod a ganiateir], wedi gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oedd gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith, unrhyw brif fuddiant yn yr annedd a werthir,

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod [F2y cyfnod a ganiateir] y cyfeirir ato ym mharagraff (b), ac

(e)os nad yw’r prynwr neu briod neu bartner sifil y prynwr, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, wedi caffael prif fuddiant mewn unrhyw annedd arall gyda’r bwriad iddi fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

[F3(2A)At ddibenion is-baragraffau (2)(b) a (d), ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, neu

(b)unrhyw gyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith sy’n hwy na 3 blynedd os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2B).

(2B)Yr amodau yw—

(a)daeth cyfyngiad perthnasol i rym yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad yr oedd y trafodiad blaenorol yn cael effaith (“y cyfnod perthnasol”),

(b)cafodd y cyfyngiad perthnasol effaith andwyol sylweddol ar allu’r prynwr i gaffael annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr cyn diwedd y cyfnod perthnasol, ac

(c)ymrwymir i’r trafodiad o dan sylw—

(i)ar neu ar ôl 12 Gorffennaf 2024, a

(ii)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(2C)Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2B), rhaid i’r prynwr gynnwys datganiad yn y ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad o dan sylw sy’n esbonio sut y bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2B).]

(3)Nid yw is-baragraff (2)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad oedd y ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad yr oedd y trafodiad o dan sylw yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(4)At ddibenion y paragraff hwn, caiff yr annedd a brynir ddod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr—

(a)os oedd y prynwr, ar y dyddiad y mae’r trafodiad (“y trafodiad o dan sylw”) yn cael effaith, yn bwriadu i’r annedd a brynir fod yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddo,

(b)os yw’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr, mewn trafodiad tir arall [F4(“y trafodiad gwaredu”)] sy’n cael effaith ar ddyddiad yn ystod [F5y cyfnod a ganiateir], yn gwaredu prif fuddiant mewn annedd arall (“yr annedd a werthir”),

(c)os nad oes gan y prynwr na phriod neu bartner sifil y prynwr, yn union ar ôl y dyddiad y mae’r [F6trafodiad gwaredu] yn cael effaith, brif fuddiant yn yr annedd a werthir, a

(d)os yr annedd a werthir oedd unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith.

[F7(4A)At ddibenion is-baragraff (4)(b), ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith, neu

(b)unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith sy’n hwy na 3 blynedd os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (4B) neu is-baragraff (4C).

(4B)Yr amodau yw—

(a)daeth cyfyngiad perthnasol i rym yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad o dan sylw yn cael effaith (“y cyfnod perthnasol”),

(b)cafodd y cyfyngiad perthnasol effaith andwyol sylweddol ar allu’r prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr i waredu’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir cyn diwedd y cyfnod perthnasol, ac

(c)ymrwymir i’r trafodiad gwaredu—

(i)ar neu ar ôl 12 Gorffennaf 2024, a

(ii)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4C)Yr amodau yw—

(a)ar ddyddiad cael effaith y caffaeliad o’r prif fuddiant gan y prynwr neu briod, cyn-briod, partner sifil neu gyn-bartner sifil y prynwr yn yr annedd a werthir, roedd gan yr annedd a werthir ddiffyg diogelwch tân na allai rhywun a oedd yn prynu’r buddiant fod wedi gwybod amdano yn rhesymol,

(b)roedd gan berson perthnasol ddyletswydd (i unrhyw raddau) i unioni’r diffyg diogelwch tân, ac

(c)naill ai—

(i)nad oedd y diffyg diogelwch tân wedi ei unioni ar y dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu yn cael effaith, neu

(ii)pan oedd y diffyg diogelwch tân wedi ei unioni ar y dyddiad y mae’r trafodiad gwaredu yn cael effaith, ymrwymwyd i’r trafodiad gwaredu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r diffyg diogelwch tân gael ei unioni.

(4D)Yn is-baragraff (4C)—

  • ystyr “diffyg diogelwch tân” (“fire safety defect”), mewn perthynas ag annedd a werthir, yw diffyg diogelwch tân sy’n debygol o—

    (a)

    lleihau’n sylweddol nifer y personau sydd â diddordeb mewn prynu’r annedd a werthir na phe na bai ganddo’r diffyg, neu

    (b)

    gostwng yn sylweddol werth marchnadol yr annedd a werthir na phe na bai ganddo’r diffyg;

    ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

    (a)

    pan fo’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir yn fuddiant lesddaliad—

    (i)

    landlord y person a oedd â’r prif fuddiant, neu

    (ii)

    datblygwr yr annedd a werthir;

    (b)

    pan fo’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir yn fuddiant rhydd-ddaliad mewn tir cyfunddaliad—

    (i)

    y gymdeithas cyfunddaliad ar gyfer yr annedd a werthir, neu

    (ii)

    datblygwr yr annedd a werthir;

    (c)

    pan fo’r prif fuddiant yn yr annedd a werthir yn fuddiant rhydd-ddaliad (ac eithrio buddiant mewn tir cyfunddaliad), ddatblygwr yr annedd a werthir.

(4E)Yn y diffiniad o “person perthnasol” yn is-baragraff (4D), nid yw “datblygwr” yn cynnwys datblygwr sydd hefyd y person a oedd â’r prif fuddiant.]

(5)Nid yw is-baragraff (4)(c) yn gymwys i briod neu bartner sifil y prynwr os nad yw’r ddau ohonynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r [F8trafodiad gwaredu] yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”).

(6)Am ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad ag annedd sy’n dod yn annedd sy’n disodli unig breswylfa neu brif breswylfa’r prynwr, gweler paragraff 23.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3